Astudiaethau achos

Supergrounds yng Nghymru

Grwp astudiaeth achos: sylfaen, cynradd

Mae rhaglen Supergrounds LTL / RBS wedi helpu i drawsffurfio meysydd chwarae mewn 20 ysgol gynradd yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe orffenodd brosiectau yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llandysul ac yn Ysgol Gynradd Sirol Sennybridge. 

Roedd yr ysgol yn Llandysul yn awyddus i greu ardal lle all blant chwarae yn greadigol ac yn ddychmygol mewn amgylchedd ddiogel. Roedd yr ardal a dewiswyd yn ardal o borfa o flaen berllan. Mae’r plant yn cyrraedd yr ardal, sy nawr yn ardal natur, drwy ddefnyddio grisiau gwledig. Mae sied wedi ei drawsffurfio i mewn i chawaraedy lliwgar, ac mae llawr bren wedi ei osod o gwmpas y chwaraedy, o dan y coed. Mae lluniau o gymeriadau o storïau Gymraeg wedi eu gosod o gwmpas yr ardd. Mae llong morladron tu fas i’r chwaraedy, gyda llwybr yn rhedeg o’i gwmpas, lle mae’r plant yn chwarae ar feiciau a cheir bach. Mae gwelyau uchel wedi eu adeiladu, er mwyn i’r plant dyfu planhigion, drychau wedi’u gostwng ac fe creuwyd ardal synwhyraidd, yn cynnwys gardd llysieuol.  

Fe geisiodd Helen Horscroft, gweithiwr RBS, rhiant a hen ddisgybl, am y wobr Supergrounds. Mae’r ysgol hefyd wedi croeso llawer o wirfoddolwyr, yn cynnwys Clwb Ffermwyr Ifainc Pontsian, rhieni, tad-cuod a mam-guod, a helpwyd beintio ac i baratoi’r maes chwarae. Fel dathliad o’r ardal newydd, gwisgodd y plant fel morladron am ddiwrnod, a gwahoddiwyd Bili Bom Bom (cymeriad teledu) i agor y maes chwarae newydd.  

Roedd Sennybridge yn teimlo fod angen ardal ddiogel yn yr ysgol, lle all y plant ymchwilio a dysgu yn annibynnol. Dewiswyd ardal mawr o borfa ac fe adeiladwyd ffens cryf o’i gwmpas er mwyn creu preifatrwydd. Mae llwybr llechi yn mynd i ‘ystafelloed’ gyda themau gwahanol. Mae yna ardal chwarae, gyda ffram ddringo, ysglentiau a thwnel mawr plastig. Mae yna seddi o dan gysgod coed cerddinen. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys ardal bywyd gwyllt, lle all y plant blannu, cloddio a dysgu adnabyddiaeth anifeiliaid.  

Cymerodd y disgyblion ran yn y brosiect o’r dechrau i’r diwedd. Dewisent y cyfarpar, a rhoddent gymorth wrth blannu a chloddio. Mae Jenny Jones, y gweithiwr NatWest a enwebodd yr ysgol am wobr Supergrounds, wedi gwneud llawer iawn i gefnogi’r prosiect, yn cynnwys codi arian, gwaith corfforol a mynd i ddathliadau’r gwasg. Creuwyd y madarch bren cerfiedig gan riant. Rhoddwyd rhieni a ffrindiau’r ysgol lwyth o blanhigion, crochanau,melinau gwynt ac yn y blaen. Nawr bod y prosiect wedi gorffen, mae’r ysgol yn gobeithio i ddatblygu’r eco-gardd.