Astudiaethau achos

Ysgol Aberpennar

Grwp astudiaeth achos: cyfun

Mae Ysgol Aberpennar yn ysgol gyfun gyda tua 1200 o ddisgyblion mewn ardal ddifreintiedig yn agos i Gaerdydd. Mae gan yr ysgol faes chwarae mawr ac amrywiol, gydag ardaloedd goedwig, porfa a choncrid. Amser maith yn ôl roedd y maes chwarae yn ran o erddi maenor yr Arglwydd Aberdâr, ac mae hyn yn dangos yn y gweddillion lwybrau ac adeiladau fel stabl sydd o gwmpas. Hefyd, mae yna nifer o goed arbennig sy’n parhau o’r hen arboretwm.  

Fe gyflwyniwyd garddwriaeth fel ran o’r cwricwlwm 14-16 Key Start, ym mis Medi 2003. Mae ymgynghorwr garddwriaeth yn gweithio gyda’r myfyrwyr dwywaith yr wythnos, ac mae prifathro’r ysgol yn cefnogi’r prosiect yn frwdfrydig. Pan ddechreuodd y prosiect, dim on saith bachgen o flwyddyn 10 oedd yn cymryd rhan. Fe ehangodd y prosiect cyn bo hir, a chyflwynwyd cyrsiau ar gyfer myfyrwyr dros 16.  

Y tasg gyntaf oedd i arolygu’r gwelyau uchel. Cyflawnodd fyfyrwyr asesiadau risk, arolygiadau o adeiladwaith y gwelyau ac o’r plannu. Dechreuent gynllunio plannu ychwanegol, er mwyn gwella golwg y gwelyau yn ystod y gaeaf. Gwnaeth y myfyrwyr fesur a fraslunio’r gwelyau, a defnyddiwyd lyfrau i ymchwilio planhigion. Ysgrifennwyd amserlenni cynhaliaeth, ac fe ddilynent yr amserlenni drwy gydol y cwrs.  

Mae’r myfyrwyr yn gweithio oddi ar yr ysgol hefyd, ym meysydd yr ysgol gynradd lleol a’r eglwys. Maent yn gobeithio bod y gymuned yn gweld eu bod yn gweithio yn gyfrifol. Mae myfyrwyr hefyd wedi clirio alotiad er mwyn tyfu bwyd. Rhannwyd y bwyd rhwng y myfyrwyr a phobl sydd wedi cefnogi’r prosiect.