Astudiaethau achos

Ysgol Gynradd Gymunedol Christchurch

Grwp astudiaeth achos: sylfaen, cynradd

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Christchurch wedi’i sefydlu yng ngorllewin Rhyl. Nid oes gan lawer o’r plant fynediad i ardd ddiogel sy’n addas iddynt chwarae, darllen neu mwynhau’r teimlad o blanhigion a phorfa. Fel ran o weledigaeth gyfan ar gyfer y maes chwarae, penderfynwyd ei fod yn bosib i gyfleoedd dygsu i symud mas o’r ystafell ddosbarth i’r mannau agored sydd o gwmpas yr adeilad. Trwy greu cysylltiadau gyda’r gymuned leol, mae athrawes oedran y Cyfnod Sylfaen, Vanessa Lloyd, wedi medru creu hafan ddiogel a diddorol ar gyfer y plant. Fe roddwyd arian ar gyfer y prosiect gan Brian Hubble o Education Xtra, Gethin Jones o Out of School Learning a Pat Butters o ELWA / Coleg Llandrillo. Pan glywodd fusnessau lleol am y prosiect yn yr ardd, roeddent yn hapus i roi cymorth. 

Rhoddwyd dau cwch gan Cadiancau Môr Rhyl, ac fe ddaeth y cychod i fod yn thema i’r ardd. Rhoddwyd pibellau carthffos gan adeiladwyr lleol, sy’n boblogaidd iawn gyda’r plant. Er enghraifft, maent yn mwynhau ceisio symud pêl o un man i man arall, trwy ddefnyddio’r pibellau. Mae’r disgyblion wedi amrywio’r gweithgaredd hwn i gynnwys dwr lliwgar twym (hanfodol yn ystod y gaeaf) a hwyaden. Mae’r plant yn creu sianeli i alluogi’r dwr i lifo. Rhaid iddynt ddatrys y broblem o lethroedd er mwyn i’r dwr symud, ac i sicrhau bod yr hwyaden yn cyrraedd pen ei daith!  

Mae gan y plant gyfle i ymchwilio ac i ddefnyddio’r ardd trwy gydol y flwyddyn, ac mewn pob tywydd. Mae cotiau, hetiau ac esgidiau rwber ar gael ar bob amser. Oes yna ffordd gwell i ddysgu am ddillad glaw, nag i fynd allan yn y glaw ac yn aros yn sych? Mae golchi dillad yn y bore, eu gosod ar y lein i sychu ac wedyn i’w casglu yn brofiad dda o’r tywydd. Mae’r tymhorau yn darparu nifer o weithgareddau ardderchog, ac er mwyn eu gwerthfawrogi mae’n rhaid defnyddio’r tu allan i ddysgu.  

Mae’r ardd hon wedi llwyddo diolch i weledigaeth yr athrawon, ac mae’r plant yn ei ddefnyddio fel ymestyniad o weithgareddau yn yr ystafell dosbarth. Mae darganfod ffyrdd eraill o ddefnyddio pethau sydd wedi eu ailgyrchu, neu sy’n ail-law, hefyd yn bwysig iawn. Mae dychymig y plant wrth ddefnyddio’r pethau yma yn helpu i’r ardd fod yn le hapus i ymchwilio, darganfod, creu a bod…