Astudiaethau achos
Ysgol Gynradd Ynys y Barri
Grwp astudiaeth achos: cynradd
Ysgol Gynradd Ynys y Barri Grwp astudiaeth achos: Cynradd Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn sefyll ar bentir yn edrych ar draws Dociau'r Barri, ar un pryd un o'r porthladdoedd glo mwyaf brysur y byd. Mae'n ysgol drefol ynghanol strydoedd teras ac nid oes llawer or mannau agored yn yr ardal. Mae maes chwarae gwreiddiol yr ysgol yn concrid yn gyfan gwbl. Ond, diolch i lawer o waith caled a phobl y gymuned yn cymryd rhan neu'n cyfrannu'n hael, mae'r ysgol wedi creu man agored ardderchog. Yn gyferbyn i'r ysgol roedd darn bach o dir wastraff ag oedd yn berchen i Associated British Ports. Fe rhoddodd ABP y darn o dir i'r ysgol - ac wedyn fe ddechreuodd y gwaith caled! Trwy gofyn i'r gymuned lleol i gymryd rhan, roedd yr ysgol yn medru defnyddio adnoddau nad oedd fel arfer ar gael iddynt. Fe wirfoddolodd pobl yn y gymuned a changen lleol MIND, elusen iechyd meddwl, i helpu gyda'r cloddio. Roedd pawb yn y cymuned yn medru gweld potensial y darn o dir i droi i mewn i'r unig man agored las ynghanol y tai teras. Mae'r brwdfrydedd hwn yn parhau heddiw, ac mae sawl cymydog yn helpu edrych ar ol yr ardd. Roedd cymorth y gymuned wedi galluogi'r ysgol i gynnig am arian oddiwrth nifer o gwmniau, yn cynnwys Pfizer, cwmni fferyllol blaenorol. Roedd yr arian hwn wedi talu am wasanaethau cynlluniwr broffesiynol, cyfarpar chwarae, gwelyau tyfu, pwll dwr a chylch storiau gwych. "Mae'r ardd yn ychwanegiad ardderchog i mannau agored y plant," dywedodd Dirprwy Prifathro Paul Tucker. "Mae gennynt le i redeg o gwmpas heb becso am anafu eu hunain, mae yna seddi iddynt eistedd a siarad, ac hefyd cyfarpar chwarae." Mae'r ysgol hefyd wedi gweithio ar y maes chwarae concrid, ac wedi ychwanegu stop cyfeillgarwch, parthio a llwyfan lle mae'r plant yn perfformio. Mae'r Adran Blynyddoedd Cynnar hefyd yn gwneud defnydd da o'r tu allan, gyda nifer o nodweddion adfywiol. Mae'r ymarferwyr wedi gweld nifer o fanteision wrth ddysgu tu allan. "Rwy'n mynd i'r ardd er mwyn dysgu Cymraeg," meddai Paul. "Mae'r plant yn medru siarad heb tarddu ar eu cymdogion neu'r dosbarth drws nesaf. Rwy'n credu bod y plant yn medru canolbwyntio'n well tu allan achos mae llai o cyfyngiadau arnynt."
"Mae dysgu gwyddoniaeth tu allan yn effeithiol iawn," dywedodd Paul. "Mae'r plant yn cael profiadau uniongyrchol o tyfu planhigion a llysiau, ac felly maent yn gweld pam mae mor bwysig i roi dwr iddynt, pam oes raid chwynnu'r gwelyau a phryd mae'r llysiau yn barod i'w bwyta. Mae'r dealldwriaeth llawer mwy dwfn nag os oeddent yn darllen amdano mewn llyfr."
Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri wedi cyflawnu llawer mewn amser gweddol byr, ac maent wedi llwyddo oherwydd am gyfraniad y cymuned. Mae'r ysgol a'r gymuned yn falch iawn o'r ardd, ac mae'r balchder hwn wedi llifo i mewn i'r maes chwarae. Yn fwyaf pwysig, mae'r ysgol yn deall bod y proses yn dal i ddatblygu, ac maent yn cynllunio'r rhan nesaf o'u chwyldro allanol!