Amdanyn ni

Ein symbyliad

Rydym ni yn credu'n gryf bod plant a phobl ifainc sy'n colli allan ar feysydd ysgolion da hefyd yn colli allan ar y dechreuad orau mewn bywyd.

Mae meysydd ysgolion yn chwarae ran hollbwysig mewn dysgu a datblygiad pob plentyn. Maent yn leoedd unigryw, yn darparu cyfleoedd diogel ac amrywiol ar gyfer dealldwriaeth, ymarfer corff a chwarae.

Ers 1990, mae Learning through Landscapes wedi bod yn ymgyrchu ar gyfer pob plentyn am meysydd ysgolion o ansawdd gwell.

Nid oes gan nifer o blant ym Mhrydain cyfle i ddysgu a chwarae tu allan yn ddiogel. Heb feysydd ysgolion, fe fyddent yn colli allan ar gyfleoedd hollbwysig i fod yn iachus ac yn hapus yn eu blynyddoedd cynnar. Byddent yn methu casglu'r profiadau sy angen i fod yn iachus ac yn hapus fel oedolion.

Yn 2003, arolygwyd 700 o ysgolion ac ysgolion meithrin dros Prydain. Roedd yr ysgolion hyn wedi gwellhau eu meysydd chwarae, gyda chefnogaeth Learning through Landscapes. Dangosodd yr arolygaeth bod:-

  • 73% wedi gweld gwelliant mewn ymddygiaeth y disgyblion;
  • 64% wedi gweld lleihad mewn bwlio;
  • 84% wedi gweld rhyngweithiad cymdeithasol gwell;
  • 65% wedi gweld gwelliant mewn agweddau tuag at dysgu
  • 66% yn dweud bod y gwelliannau i'r meysydd chwarae wedi cynyddu ymrwymiad rieni / y gymuned.