Amdanyn ni
Cefnogi ein gwaith
Mae LTL Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Os hoffech chi helpu ni i helpu mwy o blant ar draws Cymru i gael mynediad i feysydd chwarae iachus a diddorol, mae yna nifer o ffyrdd i gefnogi ein gwaith.
Gadewch i ni eich cefnogi chi
Os yw chwarae yn y tu allan ac addysg yn bwysig i chi, mae aelodaeth o LTL Cymru yn hanfodol.
Rydym yn darparu nifer o lyfrau, DVDs, fideos ac adnoddau arbenigol. Ymwelwch â'r tudalen 'Publications' o wefan draws-Prydeinig LTL
Arbedwch le ar gyrsiau neu cynhadleddau LTL - cyfle i gwrdd â phobl eraill ac i weld yr enghreifftiau gorau o beth sy'n digwydd ym meysydd ysgolion ac ysgolion meithrin ar draws Prydain. Darganfyddwch mwy amdanynt yma.
Cefnogwch ysgolion drwy raglenni LTL
Mae rhaglenni LTL yn darparu buddsoddiad hollbwysig i gymunedau ysgolion. Mae LTL yn gweithio gyda grwpiau o hapddalwyr i ddelio â materion, a thrwy hwn yn gwellhau cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygiad plant a phobl ifainc. Os rydych â ddiddordeb mewn cyllido raglen newydd LTL, cysyslltwch â Sarah Ghahremani..
Byddwch yn ffrind o LTL
Os rydych am gyfrannu at Ymddiriedolaeth LTL, fe fydd eich arian yn cael ei ddefnyddio ble mae'r angen mwyaf - er enghraifft, ymchwil er mwyn darganfod ffyrdd o leihau bwlio drwy gwella cynllun meysydd chwarae, neu dechrau 'clwb tyfu' newydd mewn ysgol lleol, neu cynhyrchu pecyn adnoddau di-dâl ar gyfer athrawon, i hybu dysgu yn y tu allan. Mae ffrindiau LTL yn derbyn gopi o'n gylchlythyr chwech gwaith y blwyddyn, ac ein adroddiad blynyddol. Mae pawb sy'n rhoi GBP25 y flwyddyn i'r Ymddiriedolaeth yn cael eu ychwanegu at ein restr o Ffrindiau LTL. Ymwiliwch â'r gwefan holl-Brydain i ddarganfod mwy.
Gallwch hefyd siopa mewn nifer o siopau fawr fel Marks & Spencer ac Amazon, drwy ein linc 'buy.at'. Os wnewch hyn, fe dderbynnir LTL ran o'r arian rydych yn gwario heb unrhyw gost i chi. Ymwiliwch â'n wefan 'buy.at'.