Gweithio gyda phartneriaid
Dewisiadau partneriaeth
Fe all ein dîm Rhaglenni gweithio gyda chi i greu raglen unigryw sy'n cyflawni eich blaenoriaethau. Gall raglenni eu chynllun i weithio ar lefel genedlaethol neu lleol, i roi lles i blant o unrhyw oedran. Os hoffech drafod gweithio gyda ni i greu rhaglen, cysylltwch â Sarah Ghahremani / Ffôn02920 227929..
Dyma rhai o'r elfennau all gael eu cynnwys yn eich raglen:-
Grantiau a gwobrwyon ar gyfer ysgolion ac ysgolion meithrin
Yn naturiol, mae buddsoddiad i helpu ysgolion ac ysgolion meithrin gwneud eu breuddwydiau yn wirionedd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Fel arfer, mae ein rhaglenni yn gorfodi ymgeiswyr i weithio gyda holl gymuned yr ysgol mewn proses cynllunio, er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n ddoeth.
Cyngor a chefnogaeth
Dyma elfen hollbwysig i gyd o'n rhaglenni. Fe all ddarparu hwn drwy cylchlythyrau, adnoddau ar-lein, llinell ymholiadau ffôn neu ymweliadau gan un o'n hyrwyddwyr.
Ymrwymiad gweithwyrt
Mae sawl un o'n rhaglenni yn cynnwys cyfraniad uniongyrchol gweithwyr y partner / noddwr, e.e. mentorio rheolwr brosiect gwelliant maes chwarae, neu ymuno mewn gwaith yn y maes chwarae ar y penwythnos.
Hyfforddiant
Mae ein hyfforddwyr achrededig yn gallu darparu hyfforddiant ar gyfer cyfranogwyr rhaglen er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau bydd angen arnynt.
Datblygu adnoddau
Mae ein prosiectau gyda phartneriaid yn aml yn cynnwys adnoddau newydd ar mwyn cefnogi ysgolion ac ysgolion meithrin, e.e. pecynau gweithgareddau, adnoddau ar-lein, pecynau teclyn meysydd chwarae. Mae gan LTL llawer o brofiad o gynhyrchu adnoddau o ansawdd uchel.
Ymchwil
Mae pob un o'n rhaglenni yn cynnwys gwerthusiad, ond gallwch ychwanegu elfennau ymchwil eraill er mwyn blaenyrru gwybodaeth ynglyn â phwysigrwydd chwarae a dysgu tu allan, a'r manteision o gynnwys disgyblion yn y proses o newid eu meysydd chwarae.