Gweithio gyda phartneriaid

Themàu rhaglenni

Gyda bron 20 mlynedd o brofiad mewn datblygu rhaglenni meysydd chwarae dros Prydain, fe all LTL weithio gyda phartneriaid i greu raglen sy'n ffitio gyda'u blaenoriaethau. Dyma nifer o'r materion y mae rhaglenni LTL yn delio â:

Addysg

Mae LTL Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i gefnogi chwarae tu allan a dysgu fel ran o'r Cyfnod Sylfaen, a hefyd i wellhau meysydd chwarae i blant o bob oedran.

Amgylchedd

Mae'r amgylchedd a chynaladwyaeth yn ganolog i sawl un o raglenni LTL. Mae ymchwil yn dangos bod gweithio gyda phlant ar gynllunio, gwellhau a chynhaliaeth eu meysydd chwarae yn cael effaith bwerus ar eu agweddau amgylcheddol fel oedolion.

Iechyd

Mae meysydd chwarae yn darparu nifer o gyfleoedd i gynyddu gweithgarwch, gwella buchedd ac ymwybyddiaeth iechyd ein plant. Mae LTL Cymru yn hybu lles iechyd meysydd chwarae, e.e. 'Healthy Schools' neu helpu ysgolion i sefydlu Clybiau Tyfu fel ran o addysg bwyd.

Cynhwysiad Cymdeithasol

Rydym yn gwybod bod plant a phobl ifainc yn teimlo'n berchnogol ac yn gyfrifol os ydynt yn cymryd rhan mewn prosiectau meysydd chwarae. Rydym yn argymell broses newidiad sy'n annog holl gymuned yr ysgol i gymryd rhan, ac rydym wedi datblygu nifer o raglenni i ddangos manteision y ddull hwn.

Mae'r rhaglen 'Pencampwr Plant' yng Nghymru wedi darparu adnoddau, teclynau a buddsoddiad i grwpiau o blant i ddechrau a reoli newidiadau i'w meysydd chwarae. Fe wnaeth y profiad annog y plant i siarad â'u cydraddau sefydlu angenion, datblygu atebion cynaladwy a sicrhau bod y gwelliannau yn cael eu arolygu a rheoli yn y dyfodol.