Gweithio gyda phartneriaid

Datblygu partneriaethau ar gyfer meysydd chwarae

Mae LTL yn gweithio gyda phartneriaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn cyflawni ein gweledigaeth. Mae ein partneriaid yn helpu ni i ddatblygu a reoli amrywiaeth o raglenni ac ymchwil genedlaethol a lleol.

Mae LTL yn sianelu buddsoddiad i mewn i gymunedau ysgolion, ac rydym yn gweithio gyda grwpiau allweddol i wellhau'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer dysgu a datblygiad plant a phobl ifainc.

Rydym wedi datblygu a reoli amrywiaeth o fentrau cenedlaethol a lleol sy'n gweithio i:-

  • ddarparu cefnogaeth a buddsoddiad uniongyrchol ar gyfer ysgolion ac ysgolion meithrin, i'w helpu i wneud gwelliannau i'w meysydd chwarae
  • ddangos arfer gorau mewn sawl agwedd o ddefnydd, cynllun a reoliad meysydd chwarae
  • greu sylfaen o brawf sy'n dangos gwerth dysgu tu allan i ddatblygiad yr holl blentyn
  • ddatblygu nifer o adnoddau sy'n rhoi cyfleoedd i effeithio'n bositif ar holl gymuned yr ysgol

Mae gan LTL llawer o brofiad mewn datblygu a chynllunio rhaglenni sy'n helpu partneriaid yn y sector breifat i gyflawni eu nodau Cyfrifoldeb Corfforaethol a Chymdeithasol, a'u Blaenoriaethau Buddsoddiad Gymdeithasol. Fe allent ganolbwyntio ar bwnc neu gynulleidfa arbennig, hefyd gallent ddarparu gyfleoedd i ddod â lles i gymunedau lleol. Gall hefyd fod yn gerbyd i gefnogi datblygiad broffesiynol barhaol eu gweithwyr.