Gweithio gyda phobl broffesiynol

Hybu eich gwaith i ysgolion

Un o brif dasgau LTL Cymru yw i annog fwy o ysgolion i wellhau eu meysydd chwarae, a chymryd mantais ohonynt ar gyfer chwarae a dysgu; rydym hefyd yn gweithio ar lefel genedlaethol i ddod â mwy o adnoddau i feysydd chwarae Cymru. Un canlyniad o'r gwaith hwn fydd mwy o alw am wasanaethau pobl proffesiynol fel chi.

Fe all LTL Cymru helpu pobl proffesiynol i hybu eu gwaith i ysgolion ac ysgolion meithrin.

  • Mae gan adran Cefnogaeth meysydd chwarae lleol o'r gwefan hwn linciau i grwpiau ac elusennau eraill sy medru helpu ysgolion
  • Fe all aelodau broffesiynol LTL hysbysebu eu gwaith drwy 'astudiaeth achos' ar y gwefan hwn neu yn ein cylchlythyr
  • Mae aelodau broffesiynol wedi'u rhestru yn ein Restr Broffesiynol ar-lein, sy ar gael i bob aelod o LTL
  • Os ydych yn dod yn hyfforddwr neu hyrwyddydd achrededig, fe allech chi ddarparu gwasanaethau LTL yn eich ardal chi

Mae LTL Cymru yn annog ysgolion i edrych ar eu meysydd chwarae yn holistig - meddwl am y lle i gyd, cynllunio ar gyfer gydol y cwricwilwm, a chyflawni angenion yr holl blentyn. Rydym yn hybu dull gyfranogol tuag at cynllunio meysydd chwarae, sy'n cynnwys plant yn gweithio gydag oedolion (athrawon, rhieni a'r gymuned) trwy gydol y broses.