Gweithio gydag ysgolion ac ysgolion meithrin

Y Cyfnod Sylfaen tu allan

Mae'r tu allan yn amgylchedd gyfoethog ac aml-synhwyraidd, sy'n adfywiog i bob plentyn. Mae chwarae tu allan yn modd berffaith i ddarparu profiadau 'dilys' i blant, sy'n helpu cadarnhau eu dysgu cynnar. Mae plant bach yn dysgu trwy gwneud, ac mae'r tu allan yn gynhyrfus a hwylus, sy'n helpu nhw i fwynhau dysgu.

Yr unig tô sydd gan y dosbarth orau a'r cwpwrdd mwyaf cyfoethog yw'r wybren – dyna ddywedodd Margaret McMillan, arloeswraig addysg feithrin. Bron ganrif yn ddiweddarach, mae ei gweledigaeth ar gyfer dysgu drwy chwarae yn dod yn wirionedd ar draws Cymru efo cyflwyniad y Cyfnod Sylfaen.

Mae ymchwil yn dangos bod plant ifainc (yn enwedig bechgyn) yn dysgu'n orau pan maent yn gwneud rhywbeth corfforol. Yn y tu allan, mae gan blant ryddid i archwilio - yn feddyliol ac yn gorfforol. Efallai teimlent bod llai o reolaeth gan oedolion, ac felly yn medru dysgu mewn ffordd sy'n naturiol iddynt - trwy chwarae. Yn y tu allan, fe all blant fod yn weithredol, rhyngweithiol, anniben a swnllud.

Dylai'r tu allan ddarparu cyfleoedd i blant gael profiadau rhydd a bwriadol, a dylai roi peryg, sialens, amrywiaeth a hwyl. Nid oes raid i newidiadau sy'n galluogi hwn fod yn ddrud, ac fe all gwelliannau bach gael manteision sylweddol.

Rhaid canolbwyntio ar beth hoffech roi gallu i blant wneud - nid beth hoffech chi nhw i gael. Mae angenion plant yn amrywiol, felly mae amgylchedd hyblyg yn bwysig i helpu eu datblygiad. Fe all amgylchedd heriol a chreadigol gynnwys cyfleoedd i blant ddarganfod natur, gyda chymysgiad o ardaloed caled a meddal, defnyddiau naturiol ac artiffisial. Bydd y gwagle yn galluogi plant i drafod eu amgylchedd, ac yn hybu chwarae tawel a gweithgarol. Mae parch am unigolion a'u angenion yn hollbwysig i chwarae tu allan, ac fe fydd raid i blant gydag angenion arbennig archwilio a darganfod ar gyflymder eu hun.

Yr un mor bwysig yw'r newidiadau rydych yn gwneud i'r ffordd rydych yn reoli'r amgylchedd, neu'r ffordd mae plant yn ei ddefnyddio. Mae oedolion yn chwarae ran hanfodol mewn cefnogi ac annog blant yn eu chwarae. Gwnewch yn siwr bod eich cyd-weithwyr yn deall gwerth chwarae tu allan: os nad oes ganddwch bolisiau neu arferion sy'n reoli defnydd eich amgylchedd allanol, fe fyddech yn colli'r cyfleodd i ddysgu a chwarae. Rhaid hefyd i rieni deall bwysigrwydd y tu allan, er mwyn i blant uchafu lles eu profiadau.