Gweithio gydag ysgolion ac ysgolion meithrin

Meysydd chwarae ysgolion gynradd

Fe all blant yn ysgolion gynradd dreulio 25% o'u diwrnod yn y maes chwarae. Mae cynllun a chynnal y maes chwarae yn effeithio ar sut maent yn teimlo am eu ysgol, a'u cyfleoedd ar gyfer chwarae a dysgu.

Mae amser chwarae yn elfen hanfodol i ddatblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant, ac mae pob athro yn gwybod yr effeithiau caiff amser chwarae ar y gwersi sy'n dilyn. Felly, dylai gwneud amser chwarae yn brofiad positif fod yn bwysig i bob ysgol.

Fe all cynllyn meysydd chwarae gael effaith mawr ar chwarae plant: fe all meysydd diflas, gyda ddim byd i wneud hybu ymddygiaeth ormesol ac anghymdeithasol, tra bo meysydd amrywiol, gyda nifer o wagleoedd a nodweddion yn cefnogi chwarae positif.

Ambell waith hoffai plant fod yn weithgarol, ac ambell waith byddent yn eistedd yn dawel, yn siarad gyda'u ffrindiau. Ambell waith fyddent yn dysgu gemau newydd neu cymryd rhan mewn gweithgareddau ffurfiol, ac ambell waith defnyddient eu dychymig wrth chwarae. Mae gwagleoedd efo nodweddion gwahanol yn galluogi chwarae sy'n hybu'r dychymig, estyn dawn creadigol a datblygu sgiliau cymdeithasol.

Mae plant yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai yn dysgu drwy gweld neu clywed, ond mae llawer o blant, yn enwedig bechgyn a phlant ag angenion arbennig, yn dysgu drwy gwneud. Gall y tu allan gael nifer o fanteision am ddysgu drwy gwneud - mae mwy o le; nid yw swn ac annibendod yn broblem; gall blant gael nifer o brofiadau dilys. Mae nifer o bobl yn meddwl bod addysg allanol yn meddwl gwibdaith ysgol. Ond fe all ddefnyddio'r maes chwarae yn syth, ar gyfer unrhyw pwnc ac heb wario lot o arian.

Mae rhai ysgolion wedi datblygu eu meysydd chwarae i ddarparu nodweddion arbennig. Mae dosbarth tu allan - gyda seddi a chysgod - yn ardal ardderchog i ddysgu, yn gwneud reolaith gwersi tu allan yn haws. Fe allwch ddatblygu nodweddion amgylcheddol i ddarparu cyfleoedd am waith maes gwyddoniaeth a daearyddiaeth. Fe all y maes chwarae fod yn oriel ar gyfer gwaith y plant - murluniau, mosaigiau, cerfluniaeth. Fe fydd hwn yn gwellhau'r amgylchedd ac yn dangos balchder yr ysgol yng nghampau'r disgyblion.