Gweithio gydag ysgolion ac ysgolion meithrin

Meysydd ysgolion gyfyn - gwastraff adnoddau?

Mae'r ffordd rydych yn defnyddio, cynllunio a reoli'ch maes chwarae yn gallu helpu chi i gyrraedd eich nodau am bob agwedd o'ch ysgol. Cyn i ddisgyblion, rhieni ac ymwelwyr gerdded i mewn i'ch ysgol maent wedi ffurfio'u argraffion cyntaf, drwy edrych ar y maes chwarae. Ydy eich maes chwarae mor groesawgar, heddychlon ac ysbrydoledig a dylent fod?

Gan amlaf, nid yw meysydd chwarae ysgolion gyfun yn cael yr un sylw â meysydd ysgolion gynradd. Ond, dangoswyd ymchwil gan LTL i mewn i ysgolion gyfun bod:

  • natur ac ansawdd yr amgylchedd allanol yn bwysig iawn i ddisgyblion ysgolion gyfun
  • yna rhesymau addysg, cymdeithasol, esthetig, amgylcheddol a chymunedol am gwellhau meysydd chwarae
  • amgylchedd allanol gwell yn darparu newidiadau positif mewn agweddau disgyblion, ac adnoddau newydd ar gyfer dysgu cwricwlwm

Mae disgyblion ysgolion gyfun yn dweud bod gwersi tu allan yn fwy diddorol, gwahanol ac anffurfiol, a bod athrawon yn fwy gyfeillgar nag ydynt tu fewn. Gallwch ddatblygu meysydd chwarae i ddarparu cyfleoedd gwaith maes a fyddai fel arfer yn angen ymweliadau drud.

Fe all ysgolion sy'n darparu cyrsiau galwedigaethol ddefnyddio'r maes chwarae i ddarparu cyd-destun dilys i fyfyrwyr, ar yr yn pryd â wneud gwelliannau fel nodweddion amgylcheddol, ardaoledd seddi neu gerddi sy'n rhoi lles i'r holl ysgol.

Mae datblygu eich maes chwarae yn gyfle da i ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth - ymgynghori, cyd-weithio, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Dywedodd un athro: "Yn fwyaf pwysig, mae'r myfyrwyr wedi dysgu eu bod yn medru weithio fel tîm. Mae llawer o blant yn casau gwaith tîm - mae gormod o gystadleuaeth."