Amdanyn ni

Ystafell Newyddion

Cyfraniad LTL at fodiwl Dysgu Tu Allan yn y Cyfnod Sylfaen

2/10/2008

Ym mis Medi fe welon ni gyflwyniad y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru, fframwaith addysg newydd ar gyfer plant rhwng 3 -7 mwlydd oed. Mae dysgu trwy gwneud yn bwysig iawn yn y Cyfnod Sylfaen, ac mae’r fframwaith yn anelu at gwrdd ag anghenion amrywiol plant tra’n sicrhau bod dysgu yn rywbeth gweithredol a hwylus. Mae LTL Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru dros y naw mis diwethaf, yn datblygu modiwl Dysgi Tu Allan ar gyfer gweithredwyr yn y Cyfnod Sylfaen. Mae’r modiwl yn cyfrannu at a Pecyn Hyfforddiant Genedlaethol. Fe arweiniodd LTL Cymru y pwyllgor ag oedd yn gyfrifol am y fodiwl. Roedd aelodau’r pwyllgor yn cynnwys cynghorwyr Awdurdodau Lleol, cynrychiolydd o’r sector nas cynhelir, Swyddogion Cefnogaeth a Hyfforddiant yn y Cyfnod Sylfaen, a chynrychiolwyr o’r Fforwm ‘Woodlands for Learning’. Fe sicrhaodd yr aelodaeth eang yma bod y fodiwl yn gyfunol, llawn ac yn addas i weithredwyr yn y Cyfnod Sylfaen. Cynlluniwyd y modiwl i fod mor ryngweithiol ag sy’n bosib, er mwyn dangos pam mae dysgu tu allan mor werthfawr a phwysig. Mae gweithredwyr yn cael profiad persynol o’r bosibiliadau sydd i gael wrth ddysgu tu allan. Maent hefyd yn dysgu sut mae plant yn dysgu yn holistig, a sut all dysgu tu fewn a tu allan gefnogi eu gilydd. Mae’r modiwl yn cynnwys pennodau fel:- • Natur holistig ddysgu tu allan • Cysylltiadau’r cwricwlwm • Archwilio’r tu allan ac ymarferiad • Diogelwch a reoliaeth peryglon • Rôl oedolion (gweithredwyr, rhieni, cyd-weithwyr, llywodraethwyr, gofalwr) • Syniadau ymarferol ar gyfer dygsu tu allan • Cynllunio ar gyfer dysgu tu allan • Gwylio a chofnodi dysgu tu allan Yn ystod y diwrnod hyfforddiant, fe fydd gweithredwyr yn astudio darpariaeth parhaol, darpariaeth uwch a thasgau â ffocws, ac fe fydd cyfle i gael tro yn gwneud rhai o’r gweithgareddau. Fe fydd hefyd nifer o gyfleoedd is ddysgu am arsylwi tu allan, oherwydd mae’r sgil hwn yn agwedd pwysig o ddysgu holistig. Mae nifer o sefydliadau yn becso am risgiau a pheryglon tu allan, felly mae’r pecyn hyfforddiant yn cynnwys pennod eang ar y pwnc hwn, er mwyn helpu gweithredwyr i ddatrys unrhyw broblemau. Mae oedolion galluog a brwydfrydig yn hanfodol er mwyn defnyddio’r tu allan yn effeithiol. Fe fydd y pecyn yn eich helpu i gasglu cefnogaeth y staff i gyd, ac yn dangos sut all chwarae a dygsu tu allan fod yn effeithiol iawn, ac fe all droi meddylion negyddol i mewn i gamau positif. Yn ddiweddar, dangoswyd y pecyn hyfforddiant i’r Swyddogion Cefnogaeth a Hyfforddiant yn y Cyfnod Sylfaen o bob Awdurdod Lleol, ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Fe fydd yr hyfforddiant yn cael ei ddosbarthu i weithredwyr yn y Cyfnod Sylfaen cyn gynted ag sy’n bosib. Mae nifer o adnoddau aelodaeth LT Cymru yn cefnogi egwyddorion y Cyfnod Sylfaen, a cheir lyfrgell fawr o adnoddau sy’n esbonio sut i ddefnyddio’r tu allan yn effeithiol. Am fwy o wybodaeth ar aelodaeth LTL, ymwelch â gwefan traws-Prydain LTL, sef www.ltl.org.uk.