Amdanyn ni
Ystafell Newyddion
Ysgolion ar draws Prydain i dderbyn dros £½ miliwn ar gyfer eu meysydd chwarae
10/11/2008
Mae Learning through Landscapes, elusen genedlaethol meysydd chwarae, wedi cyhoeddi enwau 138 o ysgolion ar draws Prydain, sydd wedi ennill £4,000 yng nghystadleuaeth RBS Supergrounds. Fe fydd yr arian yn helpu’r ysgolion i wella eu meysydd chwarae ar gyfer addysg, chwarae a dysgu - ac fe fydd y plant yn helpu i gynllunio’u maes chwarae newydd. Mae RBS Supergrounds wedi trawsffurfio dros 500 o feysydd chwarae’r wlad ers i’r brosiect ddechrau pedair mlynedd yn ôl. Mae’r rhaglen £6 miliwn, a datblygwyd gan RBS, wedi’i reoli gan Learning through Landscapes gyda chefnogaeth gan Groundwork, yr elusen amgylcheddol. Mewn pedair mlynedd mae RBS Supergrounds wedi gwneud dysgu yn fwy diddorol. Mae 78% o ysgolion yn dweud bod gwelliannau i’w meysydd chwarae wedi cynnyg dulliau newydd o ddysgu ac mae 68% yn dweud bod agweddau plant tuag at dysgu wedi gwella. Mae 82% o blant yn cael mwy o hwyl, sydd wedi cynyddu ymarfer corf mewn 65% o’r ysgolion, yn helpu gwella iechyd a ffitrwydd y plant.